Y Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit

6ed Cyfarfod, 17 Ionawr 2019

Ar 19 Ionawr 2019, daeth Cadeiryddion,  Cynullwyr a chynrychiolwyr y pwyllgorau sy'n craffu ar faterion sy'n ymwneud â Brexit yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban, Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, i Dŷ'r Cyffredin ar gyfer chweched cyfarfod y Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit. Roedd swyddogion Cynulliad Gogledd Iwerddon yn bresennol fel sylwedyddion, a chafodd y cyfarfod ei gadeirio gan Uwch Ddirprwy Lefarydd Tŷ'r Arglwyddi, yr Arglwydd McFall o Alcluith.

Roedd hwn yn gyfarfodydd amserol, o ystyried yr hyn a oedd wedi mynd rhagddo yn ystod y dyddiau blaenorol, gan gynnwys y bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ar 15 Ionawr pan drechwyd y Cytundeb Ymadael â mwyafrif mawr, a chyhoeddiad y Prif Weinidog y byddai’n ceisio trafodaethau trawsbleidiol cyn penderfynu ar y camau nesaf.

Yn dilyn pumed cyfarfod y Fforwm, yng Nghaerdydd, ar 25 Hydref 2018, ysgrifennwyd at Ganghellor Dugiaeth Lancaster, y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS, i dynnu ei sylw at brif argymhellion ein pwyllgorau amrywiol, yng nghyd-destun adolygiad y Llywodraeth o strwythurau Cydbwyllgor y Gweinidogion (JMC) a’r Memorandwm Dealltwriaeth, ac i nodi’r ffaith bod cred gyffredinol nad yw’r system bresennol o gysylltiadau rhynglywodraethol yn addas i’r diben a bod angen ei newid yn sylweddol, ac ar fyrder.

Heddiw, caswom ateb gan Mr Lidington, a chawson gwrdd hefyd â Chloe Smith AS, y Gweinidog dros y Cyfansoddiad yn Swyddfa'r Cabinet, i drafod hynt adolygiad y Llywodraeth o strwythurau’r JMC. Wrth ymateb i gwestiynau, dywedodd fod angen i’r pedair senedd gyflwyno cynigion ar gyfer strwythur trafodaethau rhyngseneddol yn y dyfodol ac ar gyfer craffu ar gysylltiadau rhyngseneddol ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd a, phe baent yn gwneud hynny, byddai’r Llywodraeth yn eu cefnogi. Dywedodd aelodau’r Fforwm hefyd eu bod yn pryderu am rai materion,  gan gynnwys cymhwysedd cyffredin, amwysedd Confensiwn Sewel, a’r trefniadau ar gyfer datrys achosion o anghydfod o fewn y DU.

O ystyried yr ansicrwydd gwleidyddol presennol, rydym yn tanlinellu gwerth y Fforwm fel mecanwaith anffurfiol i alluogi seneddwyr o bob rhan o'r DU ddod at ei gilydd a rhannu syniadau a safbwyntiau. Ond, dywedwn eto y bydd angen sefydlu strwythurau rhyngseneddol mwy ffurfiol yn y dyfodol.

Bydd y Fforwm yn cyfarfod eto yng Nghaeredin ym mis Ebrill 2019.

Yn bresennol

Yr Arglwydd McFall o Alcluith, Uwch Ddirprwy Lefarydd Tŷ'r Arglwyddi

Yr Arglwydd Blencathra, Cadeirydd, Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddiol Tŷ'r Arglwyddi

Yr Arglwydd Boswell o Aynho, Cadeirydd Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd yn Nhŷ'r Arglwyddi

Y Farwnes Taylor o Bolton, Cadeirydd, Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi

Yr Arglwydd Trefgarne, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Isddeddfwriaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi

Geraint Davies AS,  Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Arglwyddi

Vicky Ford AS, Pwyllgor Offerynau Statudol Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi

Partick Grady AS, Pwyllgor Offerynau Statudol Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi

John Grogan AS, Pwyllgor Materion Gogledd Iwerddon Tŷ’r Cyffredin

Syr Bernard Jenkin AS, Cadeirydd Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin

Bruce Crawford ASE, Cynullydd Pwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban

Adam Tomkins ASE, Dirprwy Gynullydd Pwyllgor Cyllid a Chyfansoddiad Senedd yr Alban

Graham Simpson ASE, Cynullydd Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith yn Senedd yr Alban

Stuart McMillan ASE, Dirprwy Gynullydd, Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith yn Senedd yr Alban

Mick Antoniw AC, Cadeirydd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

David Rees AC, Cadeirydd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru